Mae cynyddu biliau ynni yn bryder cyson i’r mwyafrif o aelwydydd ac mae llawer ohonom yn newid darparwyr i gael y fargen orau. Fodd bynnag, gall arbed arian ddechrau yn y cartref trwy atal colli gwres trwy’ch waliau, eich to a’ch lloriau.
Yn ffodus, ni fu erioed amser gwell i asesu eich eiddo a deall ble mae gwres yn cael ei golli, gyda chynlluniau effeithlonrwydd ynni a gefnogir gan y llywodraeth ar gael.
Mae’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO) yn rhwymedigaeth a osodir gan y llywodraeth, ar y cwmnïau ynni, i ddarparu cyllid ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni, i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, lleihau allyriadau carbon ac arbed arian ar filiau ynni deiliad tŷ.